DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Plâu Planhigion (Awdurdodiadau) (Diwygio) 2022

DYDDIAD

05 Hydref 2022

GAN

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

 

Bydd Aelodau'r Senedd am wybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnodd Victoria Prentis AS, Gweinidog Gwladol y Deyrnas Unedig dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Plâu Planhigion (Awdurdodiadau) (Diwygio) 2022 a fydd yn berthnasol i Brydain Fawr. 

 

Bydd yr OS uchod yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer pwerau a roddwyd gan Erthygl 41(3) o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion, rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.

 

Mae'r OS yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829, sy'n sefydlu gofynion wrth weinyddu'r rhanddirymiadau o dan Erthyglau 8 a 48 o'r Rheoliad Iechyd Planhigion. Mae'r diwygiadau hyn yn addasu'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu a'r wybodaeth sydd yn y Llythyr Awdurdod o dan Erthygl 3(3), Erthygl 6(4) ac Atodiad I, sy'n ofynnol wrth wneud cais am awdurdodiad o dan y rhanddirymiadau hyn ac at ddibenion monitro'r deunyddiau o dan sylw.   

 

Mae'r diwygiadau'n gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth. Maent yn lleihau'r baich gweinyddol ar ddeiliaid awdurdodiad a Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr heb beryglu bioddiogelwch.

 

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 3 Hydref 2022 i ddod i rym ar 1 Tachwedd 2022.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Gwnaeth diwygiadau blaenorol i ddeddfwriaeth Iechyd Planhigion gywiriadau yr oedd eu hangen i'r gyfundrefn rheoleiddio iechyd planhigion. Eu heffaith oedd ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru drwy roi swyddogaethau heb lyffethair iddynt (yn rhinwedd eu swydd fel 'Awdurdod Cymwys' i Gymru). Bydd y Gweinidog am nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Diben y diwygiadau

 

Mae cyfundrefn bresennol Prydain Fawr ar gyfer awdurdodiadau gwyddonol yn rhoi awdurdodiadau sy'n caniatáu i blâu neu blanhigion, cynhyrchion planhigion a deunyddiau eraill a fyddai fel arfer yn cael eu gwahardd, gael eu mewnforio i Brydain Fawr neu eu symud ynddi ar gyfer profion swyddogol, at ddibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis amrywogaethau neu fridio. Dim ond gorsafoedd cwarantin dynodedig neu gyfleusterau cadw diogel, sydd wedi cael eu cymeradwyo fel safle addas ar gyfer cadw'r deunydd o dan sylw, sy'n gymwys i dderbyn awdurdodiad i gyflwyno a storio'r deunyddiau hyn. Yn dilyn cais llwyddiannus am awdurdodiad, mae'r awdurdod cymwys (Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr) yn anfon awdurdodiad a Llythyr Awdurdod at yr ymgeisydd sy'n caniatáu mewnforio, symud a storio'r deunydd o dan sylw.  Mae dros 250 trwydded ar waith ledled Prydain Fawr gan dros 60 sefydliad gwyddoniaeth ac ymchwil. Ar hyn o bryd dylai Llythyrau Awdurdod fod naill ai ar gyfer mewnforyn unigol neu fwy nag un mewnforyn o'r un math o ddeunydd, ac o'r un tarddiad o dan yr un amodau. O ystyried maint a chymhlethdod llawer o'n hawdurdodiadau nid yw hyn yn ymarferol.

 

Er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar ddeiliaid awdurdodiad a Gwasanaethau Iechyd Planhigion Prydain Fawr, mae'r offeryn hwn yn diwygio Llythyrau Awdurdod ac yn caniatáu symud deunyddiau a ganiateir o bob tarddiad a enwir. Mae'r Llythyr Awdurdod hefyd wedi cael ei ddiwygio i ddileu unrhyw wybodaeth amherthnasol a diangen, wrth gynnal bioddiogelwch ar yr un pryd.

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma: https://www.legislation.gov.uk/uksi/2022/1020/contents/made

 

Pam mae caniatâd wedi cael ei roi

 

Mae caniatâd wedi cael ei roi i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ei rhan, er effeithlonrwydd a hwylustod ac i ddiogelu bioddiogelwch drwy ddiweddaru'r gofynion mewnforio i leihau'r risg o gyflwyno plâu drwy ddamwain. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi.